Diwrnod Promenâd Bae Colwyn 2012
Dydd Llun, Gwyl y Banc, 7 Mai 2012
Cynhelir Diwrnod Promenâd Bae Colwyn ar hyd bron i 2 filltir o’r promenâd rhwng Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn, ac mae’n denu dros 60,000 o ymwelwyr yn rheolaidd. Anogir busnesau ac elusennau lleol i ddod i’r digwyddiad er mwyn gwella eu proffil gydag ymwelwyr a phreswylwyr lleol.
Mae’r trefnwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gyhoeddi dau berfformiad byr oddi wrth Kitty Brucknell a gyrhaeddodd rownd derfynol yr X Factor (amseroedd i’w cadarnhau ar y dydd), yn ogystal â gweithgareddau cyffrous eraill fel ffair enfawr, arddangosfeydd campau beic a llawer mwy.
