Hanes

Mae’r Diwrnod Prom yn denu dros 60,000 o bobl i’r ardal ac er fod y mwyafrif yn bobl leol, mae miloedd yn teithio o bob rhan o Ogledd-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr i’r digwyddiad ardderchog hwn ger y môr.

pod

Datblygwyd y digwyddiad, yn ei ffurf bresennol, yn 1988. Roedd y pwrpas yn syml: rhoi Bae Colwyn ar y map a denu twristiaid i’r ardal. Roedd trefnwyr eisiau denu pobl i weld mor hardd y gall tref Bae Colwyn a’r ardal gyfagos fod.

Yn y flwyddyn gyntaf, denodd y digwyddiad tua 20,000 o bobl. Roedd yn ddigwyddiad bychan iawn oedd yn gyfan gwbl seiliedig ar fusnesau ac elusennau lleol. Gall y Diwrnod Prom rŵan ddenu hyd at 100,000 o bobl o bob rhan o Brydain, a bydd cwmnïau a sefydliadau cenedlaethol yn ymuno â busnesau/elusennau lleol i hyrwyddo eu hunain yn y digwyddiad.

Erbyn hyn, Diwrnod Prom yw’r prif ddigwyddiad yng Nghymru a Gogledd Orllewin Lloegr ar ddydd Llun Gŵyl y Banc Calan Mai bob blwyddyn, a gobeithiwn y byddwn yn cynnig diwrnod llawn mwynhad i bawb!

Website Development by Tastic Multimedia | Built on XML Technology | DDA Aware | Powered by Yaffle

Copyright Tastic Multimedia and Conwy County Borough Council.